Cariad Erin x

Cariad Erin x

Mae Erin wedi ysgaru. Mae Erin hefyd yn gwneud “stand-up”. Wedi ei gyrru gan frwdfrydedd ei ffrind gorau Joanne, dilynwn ymgais Erin i ailgynnau fflam rhamant yn ei bywyd. Yn y ffilm gomedi 40 munud yma fe dystiwn sbectrwm eang o emosiynau wrth i Erin a Joanne baratoi i fod yn westeion priodas. Mae prynu dillad newydd ar gyfer yr achlysur yn golygu bod rhaid gwagio cwpwrdd dillad Erin a’r catharsis o atgofion a ddaw yn sgil hynny. Mae gan y ffilm ddau naratif – gwir fywyd a phrofiadau Erin a’r dehongliad comig ohonynt sy’n sail i’w “stand-up”. Ysgrifennwyd gan Sian Naiomi a Meirion Davies.

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV