Mae Boom Cymru a 12 Yard wedi eu comisiynu i gyd-gynhyrchu fformat adloniant newydd ar gyfer Nos Sadwrn i BBC 1, 5 Star Family reunion (8 x 50’).

Bydd 5 Star Family Reunion yn dangos teulu o’r DU mewn stiwdio mewn cysylltiad dros gyswllt lloeren gyda’u teulu dramor yn cystadlu i ennill aduniad unwaith mewn oes mewn lleoliad pum seren. Mi fydd y gyfres yn darlledu mewn slot brig yn hwyrach yn y flwyddyn ac mi fydd Nick Knowles yn cyflwyno.

Ronw Protheroe sy’n uwch-gynhyrchu’r gyfres ar ran Boom Cymru, a Michael Mannes ar ran 12 Yard. Fe’i comisiynwyd gan Charlotte Moore, Rheolwr BBC One ac Alan Tyler, Golygydd Gweithredol Comisiynu adloniant i’r BBC.

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV