Am Ddrama

Am Ddrama

Ddwy flynedd nôl roedd y canwr opera Wynne Evans, ddaeth i amlygrwydd drwy hysbysebion teledu Go Compare, yn un o selebs cyfres cariad@iaith. Wythnos ar ôl cwblhau’r ffilmio yng Nghilgerran lle bu’n dysgu Cymraeg gyda saith o selebs eraill, fe benderfynodd ymgymryd â dysgu Cymraeg o ddifri. Byth er hynny mae wedi bod yn cael gwersi wythnosol ‘un i un’, ac erbyn 2013 roedd yn barod i gyflwyno ei raglenni ei hun, yn Gymraeg, ar S4C. Yn y gyfres gyntaf bu’n ymweld â nifer o gwmniau drama amatur, yn eu hannog a’u hyfforddi wrth baratoi perfformiad dramatig i’w lwyfannu yn y gymuned. Roedd yn gyfle hefyd i sgwrsio a dod i adnabod yr unigolion a’u cyfraniad i fywyd diwylliannol eu hardal. Yn yr ail gyfres, hyfforddi grwpiau o bobl i ganu a pherfformio oedd y sialens. Gyda dos go dda o hiwmor, mae Wynne yn dod â llawer o hwyl yn ogystal â llawer o waith caled a rhwystredigaethau i’r sgrin fach.

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV