35 Diwrnod

35 Diwrnod

Dolwen. Hen dŷ mawreddog yng nghanol dyffryn cyfoethog, gwyrddlas. Ar ôl marwolaeth Mair mae ei phlant a’u teuluoedd yn dychwelyd yn ystod gwyliau’r haf i wasgaru llwch eu mam ac i drafod eu hetifeddiaeth a dyfodol Dolwen. Mae yma gyfrinachau teuluol. Hen hanes. Hen gynnen. Stori sy’n llawn o greithiau emosiynol a seicolegol. Stori am deulu yn dod ynghyd o dan yr un tô . Yn grochan berw am 35 diwrnod dros yr haf . Mae’r caeau o gwmpas yn eu llawnder ond rhwng muriau tywyll Dolwen, mae ‘na dyndra a thristwch chwerw sy’n arwain yn y pendraw at lofruddiaeth …

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV