3 Lle

3 Lle

Mae’r gyfres 3 Lle yn dychwelyd i’r sgrin, gyda 6 o wynebau adnabyddus Cymru yn ein cyflwyno i dri lle sy’n bwysig iddynt. Mae pob pennod yn daith o amgylch 3 lleoliad sydd ag arwyddocâd arbennig, boed o blentyndod, gwaith neu deulu. Wrth ymweld â thri lle sydd yn arwyddocaol iddyn nhw ac yn gysylltiedig â gwahanol gyfnodau yn eu bywydau caiff cefndir a hanes y person eu datgelu, yn ogystal ag atgofion melys a chwerw, yr uchelfannau a’r brwydrau personol a phroffesiynol. Mae’r athletwr a’r pencampwr Paralympaidd Aled Sion Davies yn mynd â ni am dro i Draeth Mawr, Sir Benfro, yna Stadiwm Olympaidd Llundain lle enillodd ei fedal aur Baralympaidd gyntaf, a Chanolfan Genedlaethol Athletau Dan Do yng Nghyncoed, Caerdydd, lle mae’r gwaith caled o hyfforddi yn parhau. Mae’r Aelod Cynulliad Adam Price yn ein tywys o amgylch Rhydaman, San Steffan a Phrifysgol Harvard, yn yr Unol Daleithiau, lle iddo ail-danio ei awch am wleidyddiaeth. Ysgol Widford Lodge, yn Chelmsford, yna Bae Tor, y Gŵyr a Llundain yw dewisiadau’r cyflwynydd a’r newyddiadurwr Sean Fletcher; mae’r ddinas yn cynrychioli sawl cyfnod yn ei fywyd. Tri lle’r cerddor Georgia Ruth Williams yw Aberystwyth, Pen Llŷn a Choleg Newnham ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle astudiodd ei chwrs gradd. Mae dewisiadau’r cyflwynydd Ifan Jones Evans o fewn ei filltir sgwâr, mae’r fferm deuluol a chlwb pêl-droed Pontrhydfendigaid yn agos at ei galon, gyda maes y Sioe Frenhinol yn ganolbwynt i’w fywyd proffesiynol. Ar gyfer pennod ola’r gyfres, mae’r actor Ffion Dafis yn cychwyn ei thaith yn Nolwyddelan, Dyffryn Conwy, cyn symud i Lannau’r Fenai, ac Ynys Tysilio cyn diweddu’r rhaglen ar daith ar hyd ffordd chwedlonol yr A470 o’r gogledd i lawr i Gaerdydd.

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV